Cwestiynau Cyffredin
Wrth gofrestru cyfrif, gofynnir i chi greu taleb Debyd Uniongyrchol â ni; dyma sut codir arnoch am wefru. Pan ddefnyddiwch Bwynt Gwefru gyda rhestr brisiau, caiff gwerth y sesiwn ei ychwanegu at eich cyfrif ar ddiwrnod olaf pob mis a chewch anfoneb drwy e-bost yn dangos eich balans. Yna, caiff y taliad ei gymryd yn awtomatig o’ch cyfrif heb fod angen i chi wneud unrhyw beth.
Mae ymuno â’r rhwydwaith am ddim. Nid oes pris tanysgrifio misol na blynyddol; fodd bynnag, mae’n bosibl y bydd angen talu am wefru mewn rhai pwyntiau gwefru.
Gallwch gofrestru trwy ymweld â hafan ein gwefan a dewis “cofrestru” neu cliciwch ar here
Rhwydwaith ail-wefru cerbydau trydanol ydy’r Swarco E.Connect, yn y DU, yr Almaen ac Awstria. Mae’n rhan o grŵp Swarco, sydd hefyd yn berchen ar eVolt, cyflenwr Pwyntiau Gwefru Cerbydau Trydanol.
Os oes gennych ragor o gwestiynau, mae croeso i chi gysylltu â ni: driversupport.uk@swarco.com / 0808 1750 075